Adeiladwyd Tafarn Sinc ar gyfer twristiaid i Rosebush yn 1876. Y dyddiau hyn, mae’r “Dafarn Sinc” wedi dod yn hoff le yfed i bobl lleol a thwristiaid. Mae pawb wrth eu bodd a hynodrwydd hen le: yr arteffactau, ffotograffau, posteri ar bric-a-brac hanesyddol.
Heddiw rydym yn gweini amrywiaeth o ddiodydd alcoholig (gan gynnwys cwrw casgen wedi’i fragu’n lleol) a diodydd di-alcohol a diodydd meddal, a bwyd tafarn blasus ac iach.
Mae prydau’n cael eu coginio’n ffres yn ein cegin gan ddefnyddio llawer o gynnyrch a chynhwysion o’r ardal leol. Mae dewisiadau llysieuol a fegan ar gael (gweler y bwydlenni isod). Gellir archebu’r ‘Arbennigion’ o’r byrddau sialc yn y Dafarn. Yn ystod y Gaeaf rydym yn gweini Ciniawau Sul blasus